Fe fydd yna “broblemau difrifol iawn” yn Lloegr os nad ydi fformiwla Barnett yn cael ei newid, yn ôl y dyn wnaeth ei dyfeisio.

Mae Llywodraethau Cymru a’r Alban eisoes wedi galw am gael gwared ar fformiwla Barnett, sy’n penderfynu ar y symiau gwahanol sy’n cael ei rannu o Lundain.

Ond nawr mae’r Arglwydd Barnett ei hun, a wnaeth greu’r fformiwla pan oedd o’n Ysgrifennydd y Trysorlys yn y 70au, wedi dweud fod y toriadau mewn gwariant cyhoeddus yn ei gwneud hi’n bwysicach byth bod y system yn cael ei diwygio.

Dywedodd yr Arglwydd fod y fformiwla yn golygu bod tua £1,600 yn fwy yn cael ei wario’r pen yn yr Alban nac yn Lloegr.

Dywedodd yr Arglwydd Shutt o Greetland, dirprwy brif chwip y llywodraeth, y byddai’r fformiwla yn cael ei newid “pan mae’n amser yn iawn”.

Ond gofynnodd yr Arglwydd Barnett a fyddai’n fodlon datgelu pryd fyddai’r “amser yn iawn”.

“Mae’r Canghellor newydd gyhoeddi y bydd yna doriadau o 25% mewn gwariant cyhoeddus mewn rhai adrannau yn yr hydref,” meddai.

“Os nad ydi’r llywodraeth yn mynd i’r afael gyda hyn fe fydd yna broblemau mawr iawn yn Lloegr.”

Ymatebodd yr Arglwydd Shutt gan ddweud “nad fy lle i yw rhoi fy marn ynglŷn â phryd fydd yr amser cywir. Pe bawn i’n gwybod fe fyddwn i’n dweud”.

“Yn bersonol rydw i’n credu y dylen nhw edrych ar y peth.”