Mae Morgannwg wedi enwi carfan 13 dyn ar gyfer y daith i Hove i wynebu’r Sussex Sharks yng nghystadleuaeth yr Ugain20 nos yfory.
Mae’r timau eisoes wedi chwarae ei gilydd fis yma, pan ddaeth Sussex i’r Stadiwm SWALEC ar 13 Mehefin.
Fe enillodd Sussex y gêm o dair wiced ar ôl i Luke Wright ail-danio batiad yr ymwelwyr gyda 39 rhediad oddi ar 21 pêl.
Ond ni fydd Wright ar gael i Sussex gan ei fod ar ddyletswydd ryngwladol gyda Lloegr a’r capten Michael Yardy.
Mae’r Dreigiau wedi colli tair gêm Ugain20 yn olynol, y diweddaraf o naw wiced yn erbyn Essex dydd Sadwrn.
Carfan Morgannwg
Jim Allenby, Mark Cosgrove, Jamie Dalrymple , Tom Maynard, Ben Wright, Gareth Rees, David Brown, Mark Wallace, James Harris, Dean Cosker, Robert Croft, Shaun Tait, David Harrison.