Mae chwaraewr ail reng y Crusaders, Weller Hauraki, wedi dweud bod rhaid i’r tîm adeiladu ar eu buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Leeds Rhinos dros y penwythnos.

Fe gurodd tîm Brian Noble bencampwyr y Super League 32-26 yn Headingly i ddod a’u record o saith buddugoliaeth yn olynol i ben.

“Doedd y tîm ddim wedi chwarae’n dda dros yr wythnosau diwethaf, ond roedden nhw wedi penderfynu anelu at guro Bradford,” meddai Hauraki.

“Ar ôl y gêm honno fe gytunodd pawb bod angen i ni adeiladu ar hyn gyda dau fuddugoliaeth yn olynol – camp nad ydan ni wedi ei chyflawni’r tymor yma.

“Fe chwaraeodd y tîm yn dda yn erbyn Leeds, ac maen nhw’n dîm da iawn.”

“Beth sy’n bwysig ydi cynnal y cysondeb a pherfformio fel yna wythnos ar ôl wythnos.”

Mae Weller Hauraki yn credu bod y gêm yn erbyn y Wakefield Wildcats dydd Sul yn un enfawr i’r clwb Cymreig.

“Dydyn nhw heb gael y canlyniadau gorau dros yr wythnosau diwethaf ond maen nhw dal yn dîm peryglus,” meddai.

“Does dim pwynt ennill yn erbyn Leeds os na allwn ni ddilyn hynny gyda buddugoliaeth arall,” ychwanegodd.