Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru heddiw.

Dywedodd fod y gwasanaeth wedi “gwella’n sylweddol” dan ofal Llywodraeth y Cynulliad yng ngwyneb beirniadaeth gan arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams.

Dywedodd Kirsty Williams fod dogfen gan swyddogion y llywodraeth ei hun wedi dweud bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn gwneud yn waeth nac yn Lloegr.

Ychwanegodd fod gan ysbytai Cymru rhai o’r cyfraddau isaf o ran goroesi canser yn Ewrop ac nad oedden nhw’n defnyddio eu hadnoddau’n effeithiol.

“Mae’n gwbl warthus… fod y Prif Weinidog yn gallu honni’r fath beth,” meddai Kirsty Williams.

“Mae ei ddogfennau ef ei hun yn dangos fod yna fethiannau mawr yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru. Mae o wedi bod mewn llywodraeth ers 11 mlynedd.

“Beth mae’r Prif Weinidog yn mynd i’w wneud i fynd i’r afael gyda’r problemau yn ymwneud gyda chyfradd marwolaethau pobol Cymru, cyfradd goroesi canser pobol Cymru a’r gallu i dderbyn triniaeth pan maen nhw ei angen o?”

“Mae eich adrannau eich hun yn dweud nad ydych chi’n gwneud job digon da.”

Ymatebodd Carwyn Jones drwy ddweud bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol “ eisoes wedi gwella’n sylweddol yng Nghymru yn ystod oes Llywodraeth y Cynulliad ac mae’n rhywbeth fydd yn parhau i wella”.