Mae gwenyn yn gwneud yn well yng Nghymru nag yn rhannau eraill o Brydain am nad oes cymaint o blaleiddiad yn cael ei ddefnyddio yma.
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Dundee wedi derbyn £ 1.8 miliwn er mwyn ymchwilio i’r cysylltiad rhwng plaleiddiad a’r cwymp ym mhoblogaeth y wenynen ym Mhrydain.
Bydd yr ymchwil yn ceisio profi’r theori bod cyfuniad o gemegau amaethyddol yn ymyrryd gyda ymenyddiau’r gwenyn.
Ond yn ôl un arbenigwr o Gymru mae’r gwenyn yn gwneud yn well yma oherwydd bod prinder tir yn golygu llai o ddefnyddio plaleiddiad.
“Rydan ni’n lwcus yng Nghymru,” meddai aelod o Gymdeithas Gwenynwyr Cymru wrth Golwg360.
“Dyw gwenyn yng Nghymru ddim yn agored i niwed plaleiddiad yn yr un ffordd ag ydyn nhw mewn rhai rhannau o Ewrop” meddai Lynfa Davies, Ysgrifenyddes y Gymdeithas.
“Dyw union achos y gostyngiad yn nifer y gwenyn ddim yn glir, ac mae yna lawr o theorïau gwahanol,” meddai.
“Mae llawer o glefydau o gwmpas gan gynnwys y pla ‘verroa mite’.”
Newid hinsawdd sy’n cael y bai yn bennaf am brinhad y gwenyn.
Os yw’r tywydd yn rhy wlyb ni fydd y gwenyn yn gadael eu cychod, ac os yw’n rhy sych ni fydd cymaint o blanhigion yn tyfu i’r gwenyn eu peillio.