Bydd y Gyllideb heddiw yn golygu na fydd gan Gymru well rwydwaith band llydan na threnau cyflymach, meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones.

Dywedodd bod cynlluniau’r Blaid Lafur ar gyfer gosod rheilffordd drydan ar hyd de Cymru wedi “diflannu” o Gyllideb George Osborne.

Penderfynodd y Canghellor gael gwared ar gynlluniau’r blaid Lafur i dalu am ddatblygu’r rhwydwaith band llydan a chefnogi buddsoddiad gan gwmnïau preifat yn lle.

Dywedodd Carwyn Jones na fyddai’r farchnad yn talu am fand llydan cyflymach yn ardaloedd gwledig Cymru.

Ychwanegodd y byddai Cymru yn cael ei “gadael ar ôl” heb fwy o arian gan y Llywodraeth i wella isadeiledd y wlad.

“Rhaid sicrhau bod isadeiledd Cymru yn gwella dros y blynyddoedd nesaf, er lles busnesau,” meddai yn y Senedd.

Roedd band llydan mor bwysig i’r economi nawr ag oedd adeiladu rheilffyrdd i Gymru’r 19eg ganrif, meddai.

“Mae yna broblem fawr strwythurol fydd yn effeithio arnom ni dros y blynyddoedd nesaf ac yn effeithio ar allu busnesau i sefydlu eu hunain a ffynnu yng Nghymru,” meddai.

“Fe fydd hi’n waeth byth os nad yw’r strwythur yno ar gyfer band llydan ac os nad oes gennym strwythur trafnidiaeth chwaith.

“Bydd y cyhoeddiadau hynny yn y Gyllideb yn cael effaith mawr ar allu Cymru i gystadlu yn y dyfodol.”

Ymateb

Dywedodd arweinydd yr wrthblaid Nick Bourne nad oedd Llywodraeth y Cynulliad wedi gwneud digon i gydweithio gyda’r sector breifat.

Dywedodd bod Sefydliad y Cyfarwyddwyr wedi dweud bod Llywodraeth y Cynulliad yn “amheus” ynglŷn â’r sector breifat.

Ymatebodd Carwyn Jones gan ddweud y byddai yna gyhoeddiad cyn hir ynglŷn â rhaglen er mwyn adfer yr economi yng Nghymru.

Dywedodd ei fod o eisiau pwysleisio bod Cymru “yn agored i fusnesau” ac yn le y gallai pobol ifanc sefydlu busnesau a ffynnu.