Mae Huw Vaughan Thomas wedi ei ddewis fel yr ymgeisydd blaenllaw i fod yn Archwilydd Cyffredinol newydd Cymru.
Mae o’n gyn Brif Weithredwr ar gynghorau Gwynedd a Sir Ddinbych, ac ef yw cadeirydd Cronfa Loteri Fawr Cymru ar hyn o bryd.
Mae’r penodiad yn dal i fod yn ddarostyngedig i enwebiad ffurfiol gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, Aelodau’r Cynulliad a chymeradwyaeth derfynol y Frenhines.
Fe ymddiswyddodd y cyn Archwilydd Cyffredinol, Jeremy Colman, ym mis Chwefror, ar ôl iddo gael ei gyhuddo o wneud delweddau anweddus o blant.
Ers hynny mae Archwilydd Cyffredinol dros dro, Gillian Body, wedi llenwi’r bwlch.
“Rydym yn estyn croeso cynnes i Huw Vaughan Thomas at rôl yr Archwilydd Cyffredinol a byddwn yn gwneud popeth y gallwn i’w gefnogi ef wrth arwain Swyddfa Archwilio Cymru yn yr hyn sy’n gyfnod heriol i’r sector cyhoeddus yng Nghymru,” meddai’r Archwilydd Cyffredinol dros dro, Gillian Body, heddiw.
“Nawr, yn fwy nag erioed, mae swydd yr Archwilydd Cyffredinol yn un hanfodol wrth hyrwyddo gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, fel bod pobl sy’n byw yma yn elwa o wasanaethau atebol a reolir yn dda sy’n cynnig y gwerth gorau posibl am yr arian.”