Dim ond wythnos sydd ar ôl i wneud cais am docyn “am ddim” i Faes Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd eleni.
Ni fydd hi’n bosibl gwneud cais am docyn am ddim i’r dydd Sul cyntaf ar ôl dydd Mercher 30 Mehefin, meddai’r trefnwyr.
Mae nhw eisoes wedi derbyn ceisiadau am dros 19,000 o docynnau ar gyfer y dydd Sul.
Yn ystod wythnosau cyntaf yr ymgyrch fe gafodd bobl leol flaenoriaeth, ond erbyn hyn, mae croeso i unrhyw un o bob rhan o Gymru wneud cais am docyn am ddim.
Bwriad yr ymgyrch yw “denu cynulleidfa newydd i’r Brifwyl,” yn “enwedig mewn ardal sydd heb groesawu’r Eisteddfod am flynyddoedd lawer,” meddai llefarydd ar ran y Brifwyl.
Hyd yn hyn, mae 84% o’r ceisiadau am docynnau wedi dod o ardal Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd, a 44% o’r ceisiadau wedi dod gan y rheini rhwng 25 a 44 oed.
Mae 69% o’r rheini sydd wedi gwneud cais am docyn yn bwriadu ymweld â’r Eisteddfod am y tro cyntaf eleni, meddai’r trefnwyr.
‘Teuluoedd lleol’
“Ein bwriad oedd apelio at deuluoedd yn lleol, ac mae’r ymgyrch wedi bod yn llwyddiant ysgubol dros y misoedd diwethaf,” meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.
“Ond mae’n rhaid tynnu llinell yn rhywle, ac ar ôl trafod gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Cynulliad Cymru, penderfynwyd dod â’r cynllun i ben ar 30 Mehefin.
“Dros y mis diwethaf rydym wedi gweld rhagor o bobl o wahanol rannau o Gymru’n gwneud cais am docynnau ar gyfer y dydd Sul.
“Felly rydym yn annog Eisteddfodwyr ym mhob cwr o Gymru i gysylltu dros y dyddiau nesaf os ydych am gymryd mantais o’r cynnig i ddod i Faes yr Eisteddfod yn rhad ac am ddim ddydd Sul 1 Awst.”
Ni fydd tocyn mynediad am ddim ar y dyddiad hwn yn galluogi mynediad i’r Gymanfa Ganu nos Sul, gan fod angen tocyn arbennig ar gyfer y digwyddiad hwnnw.