Mae’r golffiwr o Ogledd Iwerddon, Graeme McDowell wedi ennill Pencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau yn Florida o un ergyd.

Graeme McDowell yw’r golffiwr Ewropeaidd cyntaf mewn 40 mlynedd i ennill y gystadleuaeth ar ôl gorffen yn lefel â’r safon – un ergyd yn well na’r Ffrancwr Gregory Havret.

Fe orffennodd y Cymro, Rhys Davies yn 74fed ar ôl rownd olaf o 76 i orffen y gystadleuaeth 19 ergyd yn waeth na’r safon.

Roedd Graeme McDowell wedi curo Rhys Davies ym Mhencampwriaeth Agored Cymru ar ddechrau’r mis ac fe ddywedodd bod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai arbennig iddo.

“I ennill yng Nghymru ac wedyn dod yma i ennill, mae’n anodd i fi ddisgrifio fy nheimladau,” meddai McDowell.

“Does dim llawer o olffwyr gwael yn cystadlu am y Tlws yma. Rwy’n ymuno gyda rhestr enwau elitaidd, ac mae gyrfaoedd yn cael eu diffinio gan bencampwriaethau fel yma.”