Mae plentyn wedi gorfod mynd i’r ysbyty ar ôl i lwynog ymosod arno, meddai’r heddlu heddiw.

Cafodd y bachgen tair oed ei frathu yn ei fraich gan lwynog mewn parti yn Ysgol Uwchradd Dorothy Stringer yn Brighton, Dwyrain Sussex, ddydd Sadwrn.

Y gred yw bod y plentyn wedi gweld cynffon y cadno dan adeiladu dros dro ac wedi estyn i lawr i’w fwytho, pan ymosododd yr anifail arno.

Fe aeth perthnasau’r plentyn ag ef i Ysbyty Sirol Sussex yn Brighton ac mae o wedi cael mynd adref erbyn hyn, meddai’r heddlu.

Daw hyn bythefnos ar ôl i lwynog ymosod ar yr efeilliaid naw mis oed, Isabella a Lola Koupparis, yn eu hystafell wely yn Hackney, dwyrain Llundain.

Mae’r ddau wedi mynd adref o’r ysbyty erbyn hyn.

Dywedodd swyddogion cylch meithrin ysgol Dorothy Stringer, fod y cylch ar gau heddiw a’u bod nhw’n ymwybodol bod llwynogod yn yr ardal “ers amser.”

“Roedd arbenigwr lleol ar fywyd gwyllt wedi ein cynghori ni nad oedd y llwynogod yn fygythiad i bobol,” meddai nhw.

“Roedd yr adeilad dros dro i fod i gael ei chwalu a’i ddisodli gydag adeilad newydd o fewn wythnosau.”

Dywedodd llefarydd ar ran y RSPCA bod llwynogod yn anifeiliaid “ofnus” oedd yn osgoi pobol. Dylai pobol osgoi gadael sbwriel allan fel nad ydyn nhw’n cael eu denu, meddai nhw.