Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi dweud bod rhaid i Gymru berfformio am 80 munud llawn er mwy gallu cystadlu gyda thimau fel Seland Newydd.

Fe chwaraeodd Cymru yn addawol yn yr hanner cyntaf a dim ond 15-9 oedd y sgôr ar yr egwyl.

Ond fe fethodd y crysau cochion â chystadlu gyda’r Crysau Duon yn yr ail hanner. Cyfrannodd Dan Carter 27 pwynt i’w dim gyda dwy gais, pedwar trosiad a thair cic gosb.

Fe sgoriodd Seland Newydd bum cais i gyd, dau yn yr hanner cyntaf a thair yn yr ail.

“Rwy’n credu bod ni wedi chwarae’n dda yn yr hanner cyntaf ac mae hynny’n plesio,” meddai Gatland.

“Roedden ni wedi rhoi’r Crysau Duon dan bwysau trwm ond roedden nhw’n wych yn yr ail hanner.

“’Roedd yna bethau positif yn yr hanner cyntaf, ond mae’n rhaid i ni ddysgu cynnal ein chwarae am gyfnodau hirach.

“Dyw chwarae am 50 munud ddim yn ddigon da; mae’n rhaid ei gynnal am 80 munud,” ychwanegodd Gatland.

Dyma oedd y drydedd gêm yn olynol i Seland Newydd atal Cymru rhag sgorio cais.

“Maen nhw’n dîm anodd i sgorio yn eu herbyn. Roedden ni wedi creu cwpl o gyfleoedd ond yn anffodus doedden ni’n methu eu datblygu. Allen ni ddim cwyno am y canlyniad,” nododd Gatland.