Mae hyfforddwr Seland Newydd, Graham Henry yn disgwyl i Gymru ymateb yn ffyrnig ar ôl cael eu maeddu 42-9 gan y Crysau Duon.

Methodd Cymru sgorio’r un cais a bu rhaid iddynt ddibynnu ar gicio Stephen Jones a Leigh Halfpenny am eu pwyntiau.

Fe gystadlodd Cymru gyda Seland Newydd yn yr hanner cyntaf a dim ond 15-9 oedd y sgôr ar yr egwyl.

Ond daeth y bwlch mewn safon i’r amlwg yn ystod yr ail hanner wrth i’r Crysau Duon sgorio tair cais gyda Chymru’n methu ymateb o gwbl.

Er gwaethaf hynny, mae Henry a oedd yn hyfforddwr Cymru rhwng 1998 a 2002 yn disgwyl iddynt daro ‘nôl yn yr ail brawf yn Hamilton dydd Sadwrn.

“Rwy’n credu bod ganddyn nhw lawer o falchder fel cenedl rygbi,” meddai Henry.

“Maen nhw siŵr o fod yn siomedig ac rwy’n credu y bydden nhw’n barod am y gêm”

Ar ôl i’r Crysau Duon ganiatáu i Iwerddon sgorio pedair cais yn eu herbyn yn y gêm gynt, roedd Graham Henry yn falch iawn bod ei dîm wedi atal Cymru rhag croesi’r llinell gais.

“Roedd y bois wedi amddiffyn yn dda ac roedd yn gam mawr ‘mlaen o’r wythnos cynt,” nododd Graham Henry.