Mae nifer y meirw o Brydain yn Afghanistan wedi cyrraedd 300, cyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn heddiw.
Fe fu farw aelod o’r Llynges Frenhinol o’i anafiadau ar ôl cael ei ddal mewn ffrwydrad yn gynharach y mis yma, dydd Sul.
Dywedodd llefarydd ar ran y weinyddiaeth y bydden nhw’n cofio’r milwr dewr gafodd ei anafu yn Ardal Sangin Rhanbarth Helmand ar 12 Mehefin.
Mae gan Brydain 9,500 o filwyr yn Afghanistan, yn ail yn unig i’r Unol Daleithiau sydd â 100,000 yno.
Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron y gallai milwyr Prydain adael y wlad cyn gynted ag yr oedd Afghanistan yn gallu amddiffyn ei hun.
“Rydym ni yna am nad yw Afghanistan yn barod eto i gadw eu gwlad eu hunain yn saff a chadw terfysgwyr allan o’r wlad,” meddai.
Mae nifer y meirw yn Afghanistan wedi cynyddu yn ystod y ddwy flynedd diwethaf wrth i filwyr Prydain frwydro yn erbyn y Taliban yn Helmand.
Fe fu farw dros 100 o filwyr yn 2009 yn unig.