Mae disgwyl tyrfaoedd mawr ar hyd strydoedd Aberdâr heddiw, i ffarwelio â’r drymiwr, Stuart Cable.
Bydd angladd cyn aelod y Stereophonics yn un preifat, ond bydd uchel seinydd yn caniatáu i bobol glywed y gwasanaeth.
Mae’r teulu wedi gwahodd dilynwyr sydd am dalu teyrnged iddo i sefyll yng nghanol y dref ar hyd y stryd hyd at Eglwys Sant Elvan, lle bydd yr angladd yn digwydd am 12:00pm.
Darganfuwyd Stuart Cable yn farw yn ei gartref yn Llwydcoed ar ddydd Llun, 7 Mehefin.
Does dim gwybodaeth eto ynglŷn ag achos ei farwolaeth, ac mae’r heddlu wedi dweud y gallai canlyniadau profion tocsicoleg gymryd wythnosau. Ond nid yw’r farwolaeth yn cael ei ystyried fel un drwgdybus.
Roedd Stuart Cable wedi cyflwyno ei sioe radio ar BBC Radio Wales ar y dydd Sadwrn cyn ei farwolaeth.
Roedd wedi gadael y Stereophonics yn 2003, ac wedi dechrau gyrfa fel cyflwynydd ar y teledu a’r radio, ac hefyd wedi sefydlu band newydd o’r enw Killing For Company.