Mae Arlywydd Rwsia, Dmitry Medvedev, wedi gorchymyn i gwmni nwy sydd dan rheolaeth y wladwriaeth i dorri’r cyflenwad i’w cymdogion yn Belarus.
Rhybuddiodd Dmitry Medvedev yr wythnos diwethaf y byddai’n rhaid i Belarus ddechrau talu ei fil nwy $200 miliwn neu wynebu colli ei gyflenwad nwy.
Mae Belarus wedi herio ffigwr uchel Rwsia a gwrthod talu. Gorchmynnodd Dmitry Medvedev y cwmni nwy anferth Gazprom i dorri’r cyflenwad heddiw.
Mae economi Belarus wedi bod yn brwydro i ymdopi gyda phrisiau uchel nwy Rwsia sydd wedi cynyddu’n sylweddol.
Mae Arlywydd Belarus, Alexander Lukashenko, wedi mynnu bod Rwsia yn eu cyflenwi nhw gydag olew a nwy rhad fel rhan o gytundeb masnachol newydd. Mae Rwsia wedi gwrthod hynny.