Fe fydd Gwlad Pwyl yn gorfod cynnal ail bleidlais yn sgil diffyg canlyniad clir yn rownd gyntaf yr etholiad arlywyddol yno.
Cafodd yr arlywydd blaenorol, Lech Kaczynski, ei ladd mewn damwain awyren ddeufis yn ôl.
Mae’r canlyniadau cyntaf yn dangos bod yr arlywydd dros dro, Bronislaw Komorowski, ar y blaen i efaill Lech Kaczynski, Jaroslaw Kaczynski.
Ond dyw Bronislaw Komorowski heb sicrhau’r 50% o’r bleidlais sydd ei angen arno er mwyn osgoi ail rownd o bleidleisio.
Mae 94% o’r pleidleisiau bellach wedi eu cyfri ac mae gan Bronislaw Komorowski 41.22% o’r bleidlais ac mae gan Jaroslaw Kaczynski 36.74%.
Fe fydd y ail bleidlais yn cael ei chynnal ar 4 Mehefin, heb yr wyth ymgeisydd arall gymerodd ran ddoe.
“Mae’n etholiad sy’n dod yn sgil trychineb mawr,” meddai Jaroslaw Kaczynski, 61 oed.
Dywedodd Bronislaw Komorowski, 58, bod yr etholiad yn “debyg i gêm bêl-droed sydd wedi mynd i amser ychwanegol,” ond ei fod o’n “hapus” gyda chanlyniad y rownd gyntaf.