Mae hyfforddwr y Crusaders, Brian Noble wedi dweud bod ei dîm yn llawn haeddu eu buddugoliaeth 32-26 yn erbyn cewri’r Super League Leed Rhinos.
Fe sgoriodd y clwb Cymreig bum cais i bedair Leeds i sicrhau eu buddugoliaeth fwyaf enwog hyd yn hyn.
Sgoriodd Weller Hauraki a Vince Mellars ddwy gais yr un gydag Adam Peek hefyd yn croesi’r llinell gais a’r cefnwr, Clinton Schifcofske yn llwyddo gyda chwe chic.
Roedd y Crusaders eisoes wedi curo’r Bradford Bulls penwythnos diwethaf am yr ail dro’r tymor hwn.
Ond roedd y fuddugoliaeth yn erbyn Leeds yn fwy o sioc wrth i dîm Brian Noble ddod â rhediad o saith buddugoliaeth yn olynol eu gwrthwynebwyr i ben.
Mae’r fuddugoliaeth wedi rhoi cyfle i’r Crusaders gyrraedd y gemau ail gyfle am y tro cyntaf.
“Roedden ni wedi cael buddugoliaeth dda yn erbyn Bradford yr wythnos diwethaf yn dilyn rhediad gwael. R’yn ni wedi adeiladu ar hynny,” meddai Noble.
“Rwy’n hapus iawn dros y chwaraewyr – ond mae’n rhaid i ni symud ‘mlaen a pharhau i ennill.”