Mae canolwr Cymru, Andrew Bishop allan o’r ail brawf yn erbyn Seland Newydd penwythnos nesaf ar ôl torri ei law yn y prawf cyntaf ddydd Sadwrn diwethaf.

Fe ddioddefodd chwaraewr y Gweilch yr anaf yn hwyr yn y gêm wrth i Gymru golli 42-9 i’r Crysau Duon, ac fe fydd allan o’r gêm am fis.

“Dyw’r anaf ddim yn un cymhleth ond mae Andrew mewn plastr ac ni fydd yn chwarae am y pedair wythnos nesaf,” meddai ffisiotherapydd Cymru, Mark Davies.

Mae’n amheus hefyd a fydd maswr Cymru, Stephen Jones ar gael ar gyfer yr ail brawf yn Hamilton dydd Sadwrn nesaf ar ôl dioddef anaf i’w law.

Bydd chwaraewr y Scarlets yn derbyn asesiad pellach cyn i benderfyniad gael ei wneud.

Ni fydd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland yn dewis chwaraewr arall i ymuno gyda’r garfan yn lle Bishop, ond fe allai ddewis maswr arall pe bai Jones yn methu’r ail brawf.

Mae disgwyl i’r canolwr, Jamie Roberts fod yn holliach ar gyfer yr ail brawf ar ôl cael ei anafu toc cyn diwedd y gêm dydd Sadwrn.

Fe ddaeth Jonathan Davies ‘mlaen yn ei le ond mae Warren Gatland wedi dweud nad oedd yr anaf yn ddifrifol ac fe ddylai Roberts fod yn barod i wynebu’r Crysau Duon yn Hamilton.

Ond mae Warren Gatland wedi cyfaddef y gallai newid rywfaint ar y tîm cyntaf cyn yr ail brawf.