Mae tîm criced Morgannwg wedi cael crasfa arall yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast, wrth golli o 66 o rediadau yn erbyn Gwlad yr Haf yng Nghaerdydd – ac mae’r prif hyfforddwr Matthew Maynard yn mynnu bod “rhaid i’r maesu wella”.

Tarodd Babar Azam, y batiwr o Bacistan, ei sgôr ugain pelawd gorau erioed – 114 heb fod allan – oddi ar 62 o belenni, gan daro naw pedwar a phum chwech.

Roedd bowlwyr a maeswyr Morgannwg ymhell o fod ar eu gorau, wrth iddyn nhw ollwng Babar ddwywaith – yn y drydedd pelawd ac eto ar 66 – ac roedd tasg y batwyr yn ormod yn y pen draw.

Wrth gwrso 184 i ennill, cafodd y sir Gymreig eu bowlio allan am 117 gyda 4.1 o belawdau’n weddill.

Manylion y gêm

Collodd Gwlad yr Haf ddwy wiced yn nhair pelawd gynta’r batiad, wrth i Steven Davies gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio’r troellwr llaw chwith Prem Sisodiya cyn i Will Smeed gam-ergydio at Marchant de Lange yn yr ochr agored oddi ar fowlio Ruaidhri Smith.

Roedd yr ymwelwyr, felly, yn 39 am ddwy erbyn diwedd y cyfod clatsio.

Ar ôl cael ei ollwng ar 10, cyrhaeddodd Babar Azam ei hanner canred oddi ar 34 o belenni, gan adeiladu partneriaeth o 52 gyda Tom Abell am y drydedd wiced.

Ond cafodd Abell ei ddal gan Timm van der Gugten yn gyrru’r troellwr Andrew Salter i’r ochr agored yn y degfed pelawd.

Cafodd Babar Azam ei ollwng eto gan y Cymro Cymraeg Owen Morgan oddi ar fowlio Marchant de Lange ar 67, cyn mynd yn ei flaen i gyrraedd ei ganred yn niwedd y batiad.

Adeiladodd e a Lewis Goldsworthy (38 heb fod allan yn ei gêm gyntaf i’r sir) bartneriaeth o 110 mewn 10.4 pelawd i gyrraedd nod oedd yn edrych yn debygol o fod yn ormod i Forgannwg hyd yn oed cyn dechrau’r batiad.

Cwrso’n ofer

Cafodd batwyr Morgannwg y dechreuad gwaethaf posib i’r batiad, wrth golli David Lloyd a Chris Cooke yn y ddwy belawd gyntaf, gyda’r ddau wedi’u dal yn sgwâr ar yr ochr agored gan yr eilydd o faeswr George Bartlett oddi ar fowlio’r troellwr Roelof van der Merwe.

Cafodd Nick Selman ei ddal ar y ffin wedyn gan Tom Abell oddi ar fowlio Craig Overton i adael Morgannwg yn 38 am dair erbyn diwedd y cyfnod clatsio – dim ond un rhediad y tu ôl i sgôr cyfatebol Gwlad yr Haf ond wedi colli un wiced yn fwy.

Ond dyna ddechrau’r chwalfa i Forgannwg, wrth iddyn nhw golli un batiwr ar ôl y llall yn gyson drwy gydol y batiad.

Cam-ergydiodd Callum Taylor yn sgwâr ar yr ochr agored i roi daliad syml i van der Merwe oddi ar fowlio Ollie Sale, a Morgannwg yn 44 am bedair.

Cafodd y Gwyddel Andrew Balbirnie ei ddal yn y slip gan y capten Lewis Gregory oddi ar fowlio Lewis Goldsworthy, cyn i Andrew Salter gael ei ddal gan yr un maeswr oddi ar fowlio Sale yn y belawd ganlynol, a Morgannwg yn 62 am chwech.

Cafodd Ruaidhri Smith ei ddal yn sgwâr ar ochr y goes gan Smeed oddi ar fowlio Goldsworthy, oedd wedi gorffen gyda dwy wiced am 24 yn ei bedair pelawd.

Daeth batiad arwrol Owen Morgan i ben ar 24 pan gafodd ei fowlio gan y troellwr coes Max Waller wrth geisio ergyd fawr at y ffin.

Cafodd Marchant de Lange ei ddal gan y trydydd dyn Smeed oddi ar fowlio Overton i adael Morgannwg yn 117 am naw, a chafodd Tim van der Gugten ei ddal gan Gregory oddi ar fowlio Overton i ddod â’r ornest i ben.

Mae’r perfformiad a’r canlyniad unwaith eto’n gadael rhagor o gwestiynau y bydd angen i Forgannwg ddod o hyd i atebion iddyn nhw’n gyflym os ydyn nhw am adfer parchusrwydd cyn diwedd y tymor.

‘Rhaid i’r maesu wella’

“Mae daliadau’n ennill gemau a phan ydach chi’n gollwng batiwr T20 gorau’r byd yn y drydedd pelawd, rydach chi’n mynd i ddiodde,” meddai Matthew Maynard.

“Dw i wedi bod ynghlwm yma ers rhai blynyddoedd ac wedi siarad am hyn, ond does ’na ddim byd wedi digwydd.

“Mi oedd y maesu’n wael heno ’ma, ac mae’n rhaid iddo fo wella.”