Mae problemau Ffrainc yng Nghwpan y Byd yn parhau ar ôl i’r garfan wrthod ymarfer ar ôl i’r ymosodwr Nicolas Anelka gael ei anfon adref yn dilyn ffrae gyda’r hyfforddwr.

Roedd ymosodwr Chelsea wedi gwrthdaro gyda Raymond Domenech ar hanner amser y gêm yn erbyn Mecsico.

Gwrthododd Anelka ymddiheuro am wrthdaro gyda’r hyfforddwr ac fe gafodd ei ollwng o’r garfan.

Ond mae gweddill y chwaraewyr yn credu iddo gael ei drin yn annheg, ac maen nhw wedi gwrthod ymarfer mewn protest.

Mae Ffederasiwn Pêl Droed Ffrainc wedi dweud y bydd ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal i’r hyn sydd wedi digwydd pan fydd Cwpan y Byd yn dod i ben.

“Mae’r ffederasiwn yn ymddiheuro i Ffrainc am ymddygiad annerbyniol y chwaraewyr sy’n cynrychioli’r wlad,” meddai datganiad gan Ffederasiwn Pêl Droed Ffrainc.

Mae capten Ffrainc, Patrice Evra wedi beirniadu’r person sydd wedi mynd at y wasg am yr hyn ddigwyddodd ar hanner amser gan ddweud bod ‘na fradwr yn eu mysg.

Mae’r chwaraewyr hefyd wedi rhyddhau datganiad yn dweud nad yw’r ffederasiwn wedi eu gwarchod nhw fel grŵp, ac nad oedden nhw wedi ymgynghori gyda’r chwaraewyr cyn gwneud eu penderfyniad i ollwng Anelka.

Fe fydd rhaid i Ffrainc guro De Affrica prynhawn dydd Mawrth yn ei gêm olaf o’r grŵp i gael unrhyw obaith o gyrraedd y rownd nesaf.