Mae Iran wedi gwahardd dau archwilydd niwclear rhag dod i’r wlad, yn ôl y cyfryngau yno.
Cafodd yr adroddiad ei roi ar wefan y darlledwr cenedlaethol, heddiw. Mae’n dyfynnu pennaeth adran niwclear Iran, Ali Akbar Salehi, yn dweud eu bod nhw wedi gwahardd y ddau archwilydd.
Mae’r Unol Daleithiau yn honni bod Iran yn ceisio gwneud arfau niwclear, a dyw’r gwahardd yr archwilwyr ddim yn debygol o leddfu’r pryderon rheini.
Honnodd Ali Akbar Salehi bod adroddiad diweddaraf yr archwilwyr wedi ei ffugio.
Ym mis Ionawr dywedodd Iran wrth yr Asiantaeth Ryngwladol ar gyfer Egni Atomig (IAEA), eu bod nhw wedi cynnal arbrofion er mwyn puro wraniwm.
Ond ym mis Mawrth fe wnaethon nhw wadu eu bod nhw wedi cynnal arbrofion o’r fath. Ym mis Mai fe aeth arbenigwyr IAEA i labordy Jabr Ibn Jayan yn Iran a darganfod bod Iran wedi symud offer o’r labordy.
Mae Iran yn honni nad ydyn nhw wedi symud unrhyw offer o’r labordy ac nad oedd gan yr arbrawf ddim byd i’w wneud gyda phuro wraniwm.
Penderfynodd y Cenhedloedd Unedig osod sancsiynau newydd ar Iran yn gynharach y mis yma er mwyn eu hannog i roi’r gorau i’w rhaglen datblygu arfau niwclear.