Mae’n edrych yn fwy tebygol y gallai carchar newydd gael ei adeiladu yng ngogledd Cymru.
Mae hyn ar ôl i Weinidog Carchardai Llywodraeth glymbleidiol Prydain, Crispin Blunt, gytuno fod yna “achos cryf iawn” i wneud hynny.
Roedd cynlluniau i adeiladu carchar ger Caernarfon wedi cael eu hatal flwyddyn ddiwethaf, ac mae’r Llywodraeth ers hynny wedi bod yn ystyried gwahanol safleoedd yn Lloegr hefyd.
Ond yn ôl papur newydd y Daily Post, roedd Aelodau Seneddol Llafur wedi tynnu sylw Crispin Blunt at gefnogaeth y Ceidwadwyr tuag at adeiladu’r carchar yng ngogledd Cymru pan roedden nhw’n Wrthblaid.
Gofynnwyd iddo a oedd ei blaid yn parhau i gredu fod yna “achos cryf iawn” am hyn; ac fe ymatebodd eu bod yn credu hynny.
Yn ogystal, yn ôl y Daily Post, mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, ac Aelod Seneddol Torïaidd Gorllewin Clwyd, David Jones, wedi ‘sgrifennu at Crispin Blunt yn cefnogi’r syniad.
Carchar
Mae amcangyfrifon y gallai carchar newydd ddod a miliynau o bunnoedd i’r ardal lle bydd yn cael ei adeiladu, a chynhyrchu cannoedd o swyddi lleol.
Does yna ddim carchar yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd, ac mae carcharorion o’r ardal yn cael eu cadw dan glo yn Lloegr.
Yng ngogledd Cymru, mae safleoedd yng Ngwynedd, Sir Ddinbych, Conwy, Sir y Fflint, Sir Fôn a Wrecsam, yn cael eu hystyried ar gyfer adeiladu carchar newydd.