Mae myfyriwr yn ddifrifol wael ar ôl cael ei roi ar dân mewn parti diwedd-tymor.

Fe daniwyd Glenn Collins, 19, ar ôl cael ei socian gyda rwm.

Mae’r myfyriwr Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Caer yn cael ei drin yng nghlinig llosgiadau Wythenshawe, Manceinion, ar ôl y digwyddiad yn oriau mân Mehefin 10.

Mae dau ddyn, sydd hefyd yn fyfyrwyr, wedi cael eu cyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol, ac fe fyddan nhw’n ymddangos nesa’ yn y llys ar Orffennaf 22.

Heddlu

“Yn fuan ar ôl pedwar o’r gloch y bore ddydd Iau, Mehefin 10, fe gafodd yr heddlu eu galw i fflat yn Berry Street, Manceinion, yn dilyn adroddiadau fod dyn wedi llosgi,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Greater Manchester.

Y gred ydi fod Glenn Collins yn ymweld â fflat ffrind ym Manceinion pan ddigwyddodd y tân. Pan gyrhaeddodd y gwasanaethau brys, roedd ganddo losgiadau gwael ar ei wyneb, ei frest, ei frechiaiu a’i gorff.