Mae bron i £18,000 wedi ei wario gan Lywodraeth San Steffan yn llenwi ei seler win.
Mae hyn wedi arwain at alwad y dylai’r casgliad cyfan gael ei werthu er mwyn codi arian.
Fe gyhoeddodd y gweinidog Swyddfa Dramor, Henry Bellingham, fod Government Hospitality, y cwmni sy’n rheoli’r seler, wedi gwario £17,698 ar stoc newydd ers Mai 6 – gan ddod â chyfanswm y casgliad i £864,000.
“Ar wahân i brynu diodydd bob yn hyn a hyn, mae Government Hospitality (GH) fel arfer yn prynu stoc newydd unwaith neu ddwy y flwyddyn,” meddai Henry Bellingham, mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig y Nhy’r Cyffredin.
“Mae GH yn prynu gwin ifanc, unwaith y mae’n dod ar y farchnad a phan mae’n weddol rad, ac yna’n eu storio nhw tan y maen nhw’n barod i’w hyfed.
“Mae’n prynu trwy gydol y flwyddyn, yn ôl y gofyn, yn ôl y farchnad a’r prisiau. Ers Mai 6, mae GH wedi gwario £17,698 ar stoc newydd ar gyfer y seler.”