Fe lwyddodd y Cymro, Rhys Davies, i fynd i rownd ola’ Pencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau.

Roedd ganddo un ergyd yn sbâr wrth iddo sgorio un yn well na’r safon yn y drydedd rownd.

Mae’n golygu bod y chwaraewr 25 oed ar gyfanswm o chwech tros y safon a naw ergyd y tu ôl i’r arweinydd, Graeme McDowell o Ogledd Iwerddon.

Roedd ei rownd ddoe’n cynnwys pedair pluen ond fe gollodd ergyd ar dri thwll hefyd wrth orffen un yn well na’r safon, ar 70.

Yr ail rownd o 78 sydd wedi sbwylio perfformiad Davies wrth iddo geisio am le yn nhîm Ewrop yn y Cwpan Ryder yng Nghymru ym yr hydref.