Fe fydd budd-daliadau a chyflogau a phensyniau’r sector cyhoeddus i gyd yn cael eu taro yn y Gyllideb ddydd Mawrth.

Mewn cyfweliad gyda phapur y Times, fe ddywedodd y Prif Weinidog David Cameron nad oedd modd osgoi toriadau yn y tri maes.

Doedd dim modd torri diffyg ariannol y Llywodraeth trwy daro’r “cyfoethog” neu “dwyllwyr budd-dal” a neb arall, meddai.

“Mae yna dri pheth mawr na allwch chi eu hanwybyddu,” meddai wrth y papur. “Tâl sector cyhoeddus, pensiynau sector cyhoeddus budd-daliadau.”

‘Dim gelyniaeth’

Ond, wrth i undebau yn y gwasanaethau cyhoeddus addo gwrthwynebu toriadau, fe ddywedodd nad oedd ganddo unrhyw elyniaeth tuag at weithwyr sector cyhoeddus a’u bod yn “gwneud gwaith eithriadol o bwysig”.

Mae disgwyl rhywfaint o gynnydd mewn trethi hefyd ac, yn ôl David Cameron, fe fydd y “rwber yn taro’r ffordd o ddifri” ddydd Mawrth – er bod un o ffigurau amlwg y Blaid Lafur yn awgrymu dywediad arall.

Mae un o’r ymgeiswyr am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn proffwydo y bydd y toriadau’n arwain at chwalu’r glymblaid rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn ôl David Miliband, fe fydd cefnogwyr y Democratiaid yn gwrthryfela.