Mae Afghanistan yn llawer mwy peryglus eleni nag yr oedd y llynedd, meddai adroddiad i’r Cenhedloedd Unedig.
Mae nifer y bomiau ymyl ffordd wedi codi 94% yn ystod pedwar mis cynta’ 2010 ac mae nifer y swyddogion Afghan sy’n cael eu llofruddio wedi dyblu bron.
Yn ôl yr adroddiad i Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon, mae hunan-fomwyr hefyd yn ymosod tua thair gwaith bob wythnos.
• Yn ôl adroddiadau o Bacistan, mae 13 o bobol wedi cael eu lladd gan un o daflegrau’r Unol Daleithiau. Fe gafodd ei danio gan un o awyrennau di-beilot yr Americaniaid.
Llun: Milwyr yn Afghanistan (Gwifren PA)