Mae doctor sy’n byw yng ngogledd Cymru wedi cyfadde’i fod wedi helpu cleifion i farw i roi pen ar eu dioddefaint.

Ddoe, fe gafodd Howard Martin o Benmaenmawr ei dynnu oddi ar restr Cyngor Meddygol Cyffredinol ac, yn awr, mae wedi dweud wrth bapur y Daily Telegraph am y ffordd y rhoddodd ormod o’r cyffur morffin i nifer o gleifion.

Roedd eisoes wedi ei gael yn ddieuog mewn achos llys yn 2005 o lofruddio tri dyn pan oedd yn feddyg mewn tair ardal yn Swydd Durham yng ngogledd-ddwyrain Lloegr.

Fe ddywedodd y meddyg 75 oed wrth y papur newydd ei fod wedi gweithredu o “gydymdeimlad Cristnogol” ac, ym mhob achos bron, roedd cleifion a’u teuluoedd wedi cytuno.

Ond mewn dau achos, roedd wedi rhoi cyffur i gleifion a oedd yn rhy wael i wneud hynny “er mwyn lleihau eu dioddefaint”.

Ystyried 18 o achosion

Roedd y Cyngor Meddygol wedi ystyried 18 o achosion rhwng 1994 a 2004 ac, er bod y rhan fwya’ o’r cleifion o fewn dyddiau i farw, fe glywodd panel disgyblu y gallai un fod wedi byw.

Doedd Howard Martin ddim yn y gwrandawiad, gan ddweud nad oedd ganddo unrhyw fwriad i weithio eto a’i fod yn gofalu am ei wraig sydd yn ei 80au ac yn ddifrifol wael.

Fe ddywedodd wrth y Daily Telegraph ei fod yn ymwybodol y “gallai dreulio gweddill ei oes yn y carchar” oherwydd ei gyfaddefiad.

Llun: Howard Martin (Gwifren PA)