Lloegr 0 – 0 Algeria
Gorffennodd ail gêm Lloegr yn y grŵp yn gyfartal ar ôl perfformiad siomedig arall gan y dynion mewn gwyn.
Chwaraeodd tîm Fabio Capello hyd yn oed yn waeth nag yn erbyn yr Unol Daleithiau, a dim ond llond llaw o gyfleoedd oedd yna i fynd ar y blaen.
Cyn y gêm roedd yr holl drafod ynglŷn â David James yn cymryd lle Rob Green yn y gôl, ond doedd dim lot i’r gôl-geidwad ei wneud mewn gêm gwbl ddiflas.
Roedd y ddau dîm yn ddigyswllt a gwastraffus o’r dechrau a doedd dim rhythm i’w chwarae.
Er hynny roedd Algeria yn llwyddo i basio’r bel a chadw’r meddiant yn well na Lloegr yn y cyfnodau cynnar.
Hanner ffordd drwy’r ail hanner fe ddechreuodd Lloegr chwarae yn well ac roedden nhw’n ymosod yn gyson ar gôl Algeria, ond heb ddod yn agos at sgorio.
Roedd y sylwebwyr yn gobeithio y byddai stŵr gan Fabio Capello yn sicrhau bod Lloegr yn chwarae yn well yn yr ail hanner, ond pan ddaethon nhw allan doedd dim byd wedi newid.
Ar ôl 60 munud penderfynodd Fabio Capello ddechrau newid pethau drwy ddod a Shaun Wright-Phillips ymlaen yn lle Aaron Lennon.
Ond erbyn hyn roedd y sylwebwyr wedi dechrau beirniadu Capello gan ddweud bod ei fod o’n rhy llym ar chwaraewyr Lloegr ac wedi codi ofn arnyn nhw.
Ar ôl 74 munud daeth Jermain Defoe ymlaen yn lle Emile Heskey ond erbyn hyn roedd Algeria yn chwarae am gêm gyfartal ac yn canolbwyntio ar amddiffyn.
Roedd Wayne Rooney yn gwbl anweledig drwy gydol y gêm ac roedd sawl chwaraewr yn perfformio’n waeth nag y maen nhw dros eu clybiau.
Wrth adael y cae cwynodd Wayne Rooney wrth y camerâu bod eu cefnogwyr eu hunain yn eu gwatwar nhw ond dan yr amgylchiadau roedd hynny’n hollol ddealladwy.