Bydd yr AS Paul Flynn yn siarad mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Gynradd Gymraeg Ifor Hael, Casnewydd fis nesaf er mwyn ceisio lansio ac ennyn cefnogaeth i sefydlu Menter Iaith newydd.
Mae disgwyl i’r AS gefnogi sefydlu’r fenter newydd â chyfeirio at yr angen am fudiad Cymraeg annibynnol newydd i hyrwyddo’r Gymraeg yn ardal Casnewydd.
‘Patagonia’
“Mae’r ffaith bod gan bob ardal yng Nghymru fenter fel hyn, hyd yn oed Patagonia, a’n bod ni heb yn dweud rhywbeth,” meddai Paul M Roberts, tiwtor Cymraeg i Oedolion yn yr ardal a chadeirydd y pwyllgor sefydlu wrth Golwg360.
“Mae llawer mwy o siaradwyr Cymraeg na’r hyn fyddai rhywun yn ei ddisgwyl ac ar hyn o bryd, mae’n anodd pontio dysgwyr hefo Cymry Cymraeg. Mae llawer o blant yn dysgu Cymraeg hefyd. Mae gwir angen rhywbeth fel hyn, mae’n anghenrheidiol,” meddai.
Mae sawl cyfarfod gwaith wedi’i gynnal yn barod eleni er mwyn cael trefn ar y mudiad newydd. Mae’r pwyllgor dros dro yn barod i ddechrau ar y gwaith ymchwil a chynllunio wrth baratoi cais at Fwrdd yr Iaith Gymraeg am gefnogaeth ariannol.
Ymhlith syniadau’r fenter newydd mae denu siop lyfrau Cymraeg i’r ddinas, cynnal gweithgareddau plant a theuluol, cynnig cefnogaeth i ddysgwyr y Gymraeg a chydlynu’r datblygiad o wasanaethau dwyieithog gan fudiadau Cymraeg a chyrff cyhoeddus.
‘Blynyddoedd’
“Dyn ni wedi bod yn aros am gael gweld mudiad annibynnol newydd i weithio dros y Gymraeg yn ardal Casnewydd a hyrwyddo’r Gymraeg ers blynyddoedd lawer,” meddai Paul M Roberts.
“Mae’n deg i ni ddisgwyl yr un fath o gefnogaeth yng Nghasnewydd ac sydd ar gael mewn ardaloedd eraill. Rydym yn gwybod y byddai llwyddo i benodi staff a chyllid digonol yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’r Gymraeg yn y ddinas. Does dim pwynt i’n plant gael addysg Gymraeg os nad oes cyfleoedd iddynt ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r ysgol,” meddai.