Mae AS Plaid Cymru wedi dweud heddiw ei fod o’n “hynod siomedig” fod y Llywodraeth “wedi gwrthod ystyried rheithgorau dwyieithog” mewn llysoedd yng Nghymru.

Roedd Hywel Williams wedi gosod Mesur Aelod Preifat yn galw am reithgorau dwyieithog pan yn briodol mewn llysoedd yng Nghymru. Ond mae’r Llywodraeth wedi gwrthod ystyried y cais.

Mae hefyd wedi dweud fod ganddyn nhw “ddiffyg dealltwriaeth lwyr o realiti cymdeithasol” ei etholaeth ef yn Arfon ac eraill “ar draws Gymru”.

‘Mwyafrif’

“Yn ymgynghoriad diwethaf y Senedd, roedd mwyafrif llethol yr ymatebwyr, a bron holl ymatebwyr Cymru, o blaid rheithgorau dwyieithog. Doedden nhw ddim yn gallu gweld unrhyw reswm ymarferol pam na ellid ei gyflwyno,” meddai Hywel Williams.

“Pam fod llywodraeth y DU yn Llundain yn dweud wrthym, unwaith eto, beth sydd fwyaf defnyddiol ar gyfer sicrhau cyfiawnder yma yng Nghymru?” meddai, cyn mynd ati i ddweud fod 80% o’r boblogaeth leol mewn etholaethau fel Arfon yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, yn y gwaith a gartref.

“Pam ddylai eu profiad o’r system cyfiawnder fod yn wahanol?” gofynnodd yr AS.

‘Diffyg uchelgais’

“Mae’n dangos diffyg uchelgais,” meddai cyn cymharu Cymru gyda gwledydd fel Canada sydd eisoes yn defnyddio rheithgorau dwyieithog.

“Dadl y llywodraeth yw y byddai cyflwyno rheithgor dwyieithog yn amharu ar yr egwyddor o ddethol rheithgor ar hap. Ond mae yna eisoes ofyn am sgiliau iaith – i siarad Saesneg.

“Does dim oblygiadau cyfreithiol nac ymarferol a fyddai’n rhwystro rheithgorau dwyieithog, dim ond diffyg dealltwriaeth Llywodraeth Llundain.”