Mae Aelod Seneddol Ewrop Plaid Cymru, Jill Evans, wedi ymuno efo Cyfeillion y Ddaear i alw am ohirio codi gorsaf ynni newydd mewn Ardal Cadwraeth Arbennig yn Sir Benfro.
Maen nhw’n honni fod gwaith adeiladu’r safle nwy hylif naturiol (LNG) yn aber Cleddau, ger Aberdaugleddau, wedi cychwyn heb i asesiadau amgylcheddol gofynnol gael ei gwneud.
Ac maen nhw’n cyhuddo Llywodraeth Prydain o roi caniatâd cynllunio, er gwaethaf rhybudd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru y byddai datblygu’r safle â’r dechnoleg sydd ar gael yn niweidiol i’r amgylchedd.
Anwybyddu cyfreithiau Ewropeaidd
Yn ôl yr ymgyrchwyr, mae caniatáu’r gwaith i barhau yn anwybyddu cyfreithiau Ewropeaidd.
Ac yn sgil hyn, mae Cyfeillion y Ddaear a Jill Evans wedi cyflwyno cwyn swyddogol i’r Comisiwn Ewropeaidd.
Maen nhw hefyd wedi galw ar Asiantaeth yr Amgylchedd i ohirio caniatáu trwydded i’r cwmni RWE npower i reoli’r safle; ac wedi galw ar Weinidog Amgylchedd y Cynulliad, Jane Davidson, i sicrhau y bydd y cais yn cydymffurfio â chyfraith Ewropeaidd.
‘Peryglu bywyd gwyllt’
Mae cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear yng Nghymru, Gordon James, wedi dweud ei fod yn poeni fod y cynlluniau fel y maen nhw yn peryglu pysgod a bywyd gwyllt.
Dyw’r dechnoleg ‘maen nhw am ei ddefnyddio ddim y gorau o ystyried y difrod amgylcheddol y mae yn ei achosi, meddai.
“Mae yna systemau gwell yn cael eu defnyddio mewn llefydd eraill,” meddai.
“Mae diwydiant yn gallu cyd-fyw â’r amgylchedd naturiol, os yw’r dechnoleg orau yn cael ei ddefnyddio, a’r safonau gweithredu gorau yn cael eu dilyn.”
Mae Jill Evans wedi dweud fod rhaid cydymffurfio â chyfreithiau Ewropeaidd i amddiffyn bywyd gwyllt yn yr ardal “werthfawr yma”.