Mae un o’r ymgeiswyr i olynu Gordon Brown yn arweinydd y Blaid Lafur wedi ceisio denu cefnogaeth aelodau’r blaid yng Nghymru heddiw.

Dyfynnwyd Andy Burnham ym mhapur newydd y Western Mail heddiw yn dweud y dylai datganoli olygu newid yn strwythur y blaid.

Mae o am newid y rheolau fel bod gan arweinwyr y Blaid Lafur yn Llundain lai o reolaeth yn y gwledydd datganoledig, meddai.

Awgrymodd hefyd y gallai Aelodau Cynulliad gael mwy o lais wrth enwebu ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y blaid Brydeinig.

Byddai hynny’n adlewyrchu’r llais sydd gan Aelodau Seneddol ac Ewropeaidd pan ddaw hi i ddewis yr arweinydd yng Nghymru.

Datganoli

Cadarnhaodd hefyd ei gefnogaeth i ddatganoli mwy o rym i’r Cynulliad, gan ddweud ei fod yn credu ei bod hi’n amser i’r wlad gymryd y cam nesaf tuag at fwy o rym.

Mae’n rhagweld y bydd ei blaid yn uno i sicrhau pleidlais dros ddatganoli grymoedd deddfu llawn i’r Cynulliad mewn refferendwm.

Roedd hefyd wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth glymblaid Llundain i atal cynllun y Blaid Lafur i ddatblygu gwasanaeth newyddion Saesneg yng Nghymru, i gymryd lle ITV Cymru.

Andy Burnham yw Aelod Seneddol Leigh. Mae pedwar arall yn ymgeisio am yr arweinyddiaeth: y brodyr David ac Ed Miliband; Ed Balls a Diane Abbott.