Mae gweinidogion wedi enwi’r dyn fydd yn goruchwylio ymdrechion Llywodraeth y Cynulliad i dorri gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd Michael Hearty yn cymryd yr awenau yn yr Adran Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad ym mis Awst.
Cyn hynny roedd o’n fos ar Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd Whitehall ac yn gyfrifol am gyllideb £56 biliwn.
Cafodd ei benodi i’r swydd wrth i Lywodraeth y Cynulliad frwydro gyda rownd gyntaf y toriadau i’w gyllideb £16 biliwn blynyddol.
Dyw hi ddim yn amlwg eto a fyddan nhw’n penderfynu oedi siâr Cymru o’r toriadau, sydd werth £160 miliwn, tan y flwyddyn ariannol nesaf.
“Mae Michael yn ymuno gyda ni ar yr amser caletaf mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ei wynebu ers datganoli,” meddai’r Gweinidog Cyllid Jane Hutt.
“Mae’n dod a mynydd o brofiad gyda fo ac rydw i’n gwybod y bydd ei gefnogaeth yn amhrisiadwy wrth i ni wynebu’r her sydd o’n blaenau ni.”
Dywedodd Michael Hearty ei fod o’n edrych ymlaen i’r her newydd o weithio i lywodraeth ddatganoledig.
“Does dim amheuaeth bod y blynyddoedd nesaf yn mynd i fod yn her i bawb sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus,” meddai.
“Rydw i’n gobeithio y galla’i ddefnyddio fy mhrofiad i helpu Llywodraeth y Cynulliad a Chymru i wynebu’r her gyda hyder.”