Mae dyn 29 oed yn Swydd Northampton wedi ymddangos o flaen Llys y Goron Swindon heddiw wedi ei gyhuddo o dreisio ym Mhrifysgol Morgannwg ar 26 Medi.
Mae Jonathan Lee Haynes yn wynebu honiadau eraill yn ei erbyn yn ymwneud gyda throseddau rhywiol eraill yn ardal Wiltshire.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan wrandawiad arall yn Llys y Goron Swindon ar 27 Awst.