Fe allai chwaraewr y Crusaders, Michael Witt golli gweddill tymor y Super League ar ôl anafu ei ben-glin.
Cafodd Witt ei anafu bythefnos ‘nôl yn erbyn Harlequins ac fe fydd yr anaf yn ergyd i’r clwb Cymreig wrth iddynt baratoi i herio’r Leeds Rhinos yn Headingly ddydd Sul.
Mae Witt wedi bod yn un o chwaraewyr gorau’r Crusaders y tymor hwn ar ôl ymuno o un o dimau rygbi undeb Seland Newydd, Otago.
Mae wedi llwyddo gyda 35 cic y tymor hwn yn ogystal â sgorio chwe chais a chreu wyth arall i’w gyd-chwaraewyr.
Mae absenoldeb Michael Witt yn golygu bod y Crusaders heb ddau o’u prif chwaraewyr yn safleoedd yr haneri, gyda Jarrod Samuut allan o’r gêm am tua chwe wythnos arall oherwydd anaf.
“R’yn ni’n siŵr o fod wedi colli Michael Witt am weddill y tymor ac mae hynny’n ergyd,” meddai hyfforddwr y Crusaders, Brian Noble.
“Mae Michael wedi bod yn un o’r haneri gorau yn y Super League y tymor yma ac mae’n siom mawr i’w golli.
“Ond rwy’n credu bod gennym ni’r chwaraewyr i gymryd ei le.”