Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i wrthod mynediad i ganŵwyr i afonydd Cymru.
Mae pwyllgor cynaladwyedd y Cynulliad yn galw am gytundebau mynediad gwirfoddol gan dirfeddianwyr yn lle.
Dywedodd cadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru, Richard Vaughan, ei fod yn pryderu y byddai rhoi rhwydd hynt i ganŵwyr ddefnyddio afonydd yn effeithio ar ffermydd.
“Rydym yn credu fod y pwyllgor wedi ymateb yn synhwyrol i ofynion y canŵwyr,” meddai.
“Mae adborth gan ein haelodau yn awgrymu fod gweithio mewn partneriaeth a thrafod [gyda chanŵwyr] yn llawer mwy adeiladol na pholisïau,” meddai’r cadeirydd.
Fe bwysleisiodd y cadeirydd nad yw Undeb Amaethwyr Cymru yn gwrthwynebu canŵio ar eu hafonydd a bod sawl aelod yn mwynhau canŵio eu hunain.
“Yn gyffredinol, rydym yn croesawu’r ffaith bod y Pwyllgor wedi cydnabod yr angen am gytundebau gwirfoddol yng Nghymru ac ddim wedi mynd i lawr llwybr mynediad gorfodol,” meddai Bernard Llewellyn, Cadeirydd Bwrdd Materion Gwledig NFU Cymru.
“Mae’n bosib bod hyn yn briodol ar gyfer gwledydd eraill ond nid ar gyfer gwlad o faint Cymru gydag ymwelwyr niferus a phwysau ar ei amgylchedd unigryw a thir ffermio.”