Mae capten Seland Newydd, Richie McCaw wedi dweud ei fod o’n disgwyl i’r gêm yn erbyn Cymru fod yn her.
Mae chwaraewyr a staff hyfforddi Cymru wedi cadw’n weddol dawel yr wythnos hon, gan ganolbwyntio ar baratoi ar gyfer y gêm.
Mae Richie McCaw yn credu bod hynny’n arwydd bod Cymru o ddifrif ynglŷn ag ennill y gêm yn Carisbrook.
“D’yn ni ddim fel arfer yn cymryd llawer o sylw o’r hyn sy’n cael ei ddweud. Ond ambell waith mae timau’n cadw’n dawel cyn y gêm ac yna mynd allan a pherfformio ar y cae,” meddai capten Seland Newydd.
“Mae’n amlwg bod Cymru yn barod, ac mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn barod hefyd.
“Maen nhw yn chwarae gydag angerdd bob tro. Dydw i erioed wedi chwarae gêm hawdd yn eu herbyn nhw,” ychwanegodd Richie McCaw.