Mae Morgannwg wedi enwi’r un garfan 14 dyn i wynebu Essex yn y gystadleuaeth Ugain20 yn Stadiwm SWALEC.
Fe gurodd y Dreigiau Essex o saith wiced yn Chelmsford nos Wener diwethaf ar ôl i Mark Cosgrove a Tom Maynard sgorio 97 rhediad oddi ar 50 pêl.
Ond maen nhw wedi colli dwy gêm ers hynny- o dair wiced yn erbyn Sussex dydd Sul i ddechrau, ac yna fe wnaeth Middlesex eu curo o 84 rhediad.
Dyma fydd y tro cyntaf i Forgannwg wynebu Essex yng nghystadleuaeth Ugain20 yn y Stadiwm SWALEC.
Ond roedd Essex yn fuddugol y tro diwethaf iddynt chwarae o dan oleuadau’r stadiwm yng nghystadleuaeth 50 pelawd Tlws Friends Provident.
Carfan Morgannwg
Jim Allenby, Mark Cosgrove, Jamie Dalrymple , Tom Maynard, Ben Wright, Gareth Rees, David Brown, Mark Wallace, James Harris, Dean Cosker, Robert Croft, Shaun Tait, David Harrison, William Owen.