Mae cwmni BT wedi galw am ohirio pleidlais i streicio gan filoedd o’u gweithwyr er mwyn cynnal trafodaethau newydd i ddatrys y ffrae tros gyflogau.

Mae Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu eisiau gweld codiad cyflog o 5% i’w haelodau, gan ddweud bod BT yn gallu fforddio’r cynnydd ar ôl gwneud elw o dros £1bn.

Ond fe fydd y bleidlais yn mynd yn ei flaen er gwaethaf ymdrechion y cwmni i osgoi streic.

Mae BT eisoes wedi cynnig codiad cyflog o 5.1% dros gyfnod o 21 mis a sicrwydd ynglŷn â swyddi.

“R’yn ni’n galw ar yr undeb i ohirio’r bleidlais a dychwelyd i drafod gyda’r cwmni,” meddai llefarydd ar ran BT.

Ond mae dirprwy ysgrifennydd cyffredinol Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, Andy Kerr yn dweud eu bod nhw ond yn gofyn am godiad cyflog rhesymol i’w haelodau sydd wedi cyfrannu ar lwyddiant BT dros y blynyddoedd anodd diwethaf.

Mae’r undeb wedi rhybuddio na fyddai unrhyw weithredu cyfreithiol i atal y bleidlais yn datrys yr anghydfod, ac y byddai’n gwaethygu’r perthynas ymhellach.