Mae cwestiynau yn cael eu gofyn yn y wasg heddiw ynglŷn ag ymyrraeth y Tywysog Siarl mewn prosiectau cyhoeddus.

Mae e-byst cyfrinachol a gyhoeddwyd yn y Guardian yn datgelu iddo lobïo dirprwy faer Llundain yn erbyn cynlluniau ar gyfer barics yn Chelsea.

Rhyddhawyd y dogfennau i’r papur newydd gan yr Uchel Lys. Maen nhw’n dangos bod y Tywysog wedi danfon crynodeb o’i bryderon i Syr Simon Milton, y swyddog sy’n rheoli cynlluniau adeiladu yn Llundain, cyn iddo benderfynu rhoi caniatâd cynllunio ai peidio.

Mae’n codi cwestiynau ynglŷn ag a oedd y Tywysog Siarl wedi camddefnyddio ei safle i ddylanwadu ar y broses cynllunio.

Roedd Clarence House eisoes wedi cadarnhau bod y tywysog wedi cwyno am y cynllun i adeiladu’r barics i aelodau blaenllaw o deulu brenhinol Qatar. Eu cwmni nhw, Qatari Diar, oedd y tu ôl i’r cynllun.

Ond dyma’r tro cyntaf i dystiolaeth ddod i’r amlwg ei fod o wedi ymyrryd yn bersonol gyda swyddogion cyhoeddus oedd â dylanwad uniongyrchol dros ddyfodol y prosiect.