Mae yna alwadau heddiw ar i’r milwyr sy’n cael eu cyhuddo o ddweud celwydd wrth banel yr ymchwiliad i gyflafan Bloody Sunday, gael eu herlyn yn y llysoedd.

Mae Michael Mansfield QC, a oedd yn cynrychioli teuluoedd rhai o’r bobol a fu farw yn Derry yn 1972, wedi dweud bod y mater mor ddifrifol nes y dylai’r awdurdodau ystyried erlyn.

Yn yr adroddiad a gyhoeddwyd ddoe, fe ddaeth yr Arglwydd Saville i’r casgliad bod rhai aelodau o Gatrawd y Parasiwt wedi rhoi adroddiadau ffug yn fwriadol er mwyn cyfiawnhau saethu at brotestwyr.


Yr adroddiad

Mae’r adroddiad yn dweud nad oes modd cyfiawnhau saethu 14 protestiwr yn farw gan aelodau’r fyddin yn 1972.

Fe wrthododd yr Arglwydd Saville honiadau bod gan rai o’r protestwyr arfau hefyd, gan nodi fod rhai wedi cael ei saethu wrth orwedd ar y llawr wedi’u clwyfo, ac eraill wrth geisio helpu’r rhai hynny oedd yn marw.

Dywedodd yr adroddiad nad oedd yr un o’r meirw yn fygythiad a bod gweithredoedd y milwyr yn methu cael ei gyfiawnhau.