Er bod 2009 wedi gweld cwymp rhai o sioeau amaethyddol mwyaf adnabyddus y wlad, doedd hynny ddim yn wir am Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.
Dyna oedd neges Cadeirydd bwrdd y gymdeithas rheoli wrth aelodau yn y cyfarfod blynyddol yn Llanilar, Ceredigion, ddoe.
Fe wnaeth Sioe Frenhinol Cymru, Y Ffair Aeaf a’r Ŵyl Tyddyn a Gardd yn well nac yn 2008, gan wneud cyfanswm o £639,397 o warged (arian dros ben).
Y ffigyrau
Fe ddechreuodd y flwyddyn gyda’r Ŵyl Tyddyn a Gardd yn atynnu 22,250 o ymwelwyr a’r gwarged orau erioed o £52,212.
Er gwaetha’ effaith y dirwasgiad a’r glaw yn Y Sioe Haf fis Gorffennaf, fe ddaeth 220,023 o ymwelwyr i Lanelwedd y llynedd.
Fe ddaeth 26,058 o ymwelwyr i’r Ffair Aeaf – yr ail nifer uchaf ers sefydlu’r digwyddiad yn 1990. Fe wnaed elw o £126,706.