Fe fydd Heddlu De Cymru yn cynnal patrolau nos yn un o barciau mwya’ adnabyddus a phoblogaidd yr ardal, ar ôl i fandaliaid fod yn achosi trwbwl yno yn ddiweddar.
Mae pobol wedi bod yn mynd i mewn i Barc Ynysangharad ym Mhontypridd ar ôl i’r gatiau gael eu cloi ac wedi bod yn malu offer.
Dyna pam y bydd swyddogion heddlu yn patrolio’r Parc ar ôl iddi nosi gan ddefnyddio cŵn Heddlu i ddal y sawl sy’n gyfrifol am y difrod.
Annerbyniol
“Mae Parc Ynysangharad yn gyfleuster gwych nid yn unig ar gyfer pobol Pontypridd, ond ar gyfer pobol ar draws de Cymru.
“Yn anffodus, mae lleiafrif yn teimlo bod angen dringo’r ffens ar ôl i’r gatiau gau ac achosi difrod troseddol – sy’n annerbyniol,” meddai’r Arolygydd Heddlu, Lee Porter.
Fe ddywedodd fod y parc eisoes yn ffurfio rhan o ardal patrolau’r heddlu yn ystod y dydd ond, o hyn ymlaen, fe fydd yn cael ei gynnwys fel man patrol yn ystod y nos hefyd.
Gwella yn y dydd
Mae gostyngiad sylweddol wedi bod mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y parc ystod y dydd yn y 12 mis diwetha’, yn ôl Heddlu De Cymru.
Mae’r Heddlu’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am bwy sy’n gyfrifol am y difrod i gysylltu â Gorsaf Heddlu Pontypridd drwy ffonio 101 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.