Mae Morgannwg wedi colli eu hail gêm Ugain20 yn olynol ar ôl i Middlesex ennill o 84 rhediad yn Richmond.

Fe sgoriodd Eoin Morgan 79 rhediad oddi ar 34 pêl gyda’r capten Adam Gilchrist yn cyfrannu 51 i arwain Middlesex i 213-4, gan guro ei sgôr gorau cynt o 210-6 yn erbyn Hampshire yn 2005.

Methodd Morgannwg â chynnig llawer o her i fowlio Middlesex gyda Jim Allenby (30) a Gareth Rees (29) yr unig rai i gynnig unrhyw fath o wrthsafiad.

Fe gipiodd Tom Smith a Shaun Udal dair wiced yr un, gyda Morgannwg allan am 129 gyda thair pelawd yn weddill.

Mae’r golled yn golygu bod Middlesex yn mynd uwchben Morgannwg i’r ail safle yn y tabl gyda’r Dreigiau’n disgyn i’r trydydd safle.