Mae nifer o bobl sy’n ddi-waith yng Nghymru wedi disgyn 10,000 i 123,000 yn ystod y misoedd rhwng Chwefror ac Ebrill eleni.
Ond mae ffigurau cyffredinol Prydain yn dangos bod diweithdra wedi cynyddu 23,000 i 2.47 miliwn yn ystod yr un cyfnod.
Mae diweithdra tymor hir – nifer y rhai hynny sydd wedi bod allan o waith am dros flwyddyn – wedi cynyddu 85,000 i 772,000 yn ystod y tri mis i Ebrill. Fe gynyddodd ddiweithdra ymysg yr ifanc hefyd (pobol rhwng 16 a 24 oed) o 11,000, i 926,000.
Ffigyrau eraill
• Mae nifer y bobol sy’n cael eu disgrifio fel y rhai “economaidd anweithgar” wedi codi 29,000 i 8.19 miliwn. Mae’r rhain yn cynnwys myfyrwyr, pobol sy’n gofalu am berthynas sy’n sâl, y rheiny sy’n absennol o’r gwaith oherwydd salwch, neu’r rhai hynny sydd wedi rhoi’r gorau i chwilio am waith
• Mae nifer y bobol sy’n hawlio budd-dal wedi disgyn 30,900 ym mis Mai i ychydig llai na 1.5 miliwn
Her go iawn
Mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud bod y ffigurau diweddaraf yn dangos maint yr her i’w thaclo.
“Mae’r ffigurau yma’n tanlinellu pam ei bod hi mor bwysig i atal y cynnig o dreth swyddi gafodd ei gynllunio gan y llywodraeth cynt, a pham bod angen i ni greu ysgogiadau i fusnesau i dyfu a chreu mwy o swyddi,” meddai’r Gweinidog Cyflogaeth, Chris Grayling.
Mae ysgrifennydd cyffredinol y TUC wedi dweud bod y ffigurau yn atgoffa rhywun bod y farchnad swyddi yn parhau’n llwm, ac y dylai’r llywodraeth feddwl ddwywaith cyn gwneud toriadau.