Does dim amheuaeth ar ol bore ma. Mae Llafur wrth eu boddau i fod mewn gwrth-blaid yn San Steffan. Nid bod y rhai oedd yn dychan y Ceidwadwyr ar risiau’r Senedd yn y Bae bore ma mewn gwrth-blaid -nhw yw prif blaid y Llywodraeth yng Nghymru wrth gwrs -ond fyddai neb yn eich beio chi am feddwl eu bod nhw.
Rhys Williams*, cyn ddarpar ymgeisydd y blaid yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr oedd wyneb yr ymgais ddiweddaraf i ddifrio’r Ysgrifenydd Gwladol Cheryl Gillan sydd yn annerch y siambr am y tro cyntaf heddiw yn ei rol newydd. “Clywch Clywch, mae’r Llywodraethwr Gillan wedi dod i Gymru i roi gwerth i’n bywydau bach di-nod ni!” oedd bloedd Rhys.
Bydd aelodau Llafur, Alun Davies yn eu mysg, yn cymeryd y cyfle’r prynhawn ma i gollfarnu Cheryl Gillan am ohirio’r refferendwm tan flwyddyn nesaf ac am bob mathau o ffaeleddau eraill. Ddylai neb amau am eiliad y byddai Llafur wedi delifro ar beth wmbreth o bethau pe baen nhw wedi aros mewn llywodraeth. Refferendwm yn yr hydref? Dim problem!
Howld on…. dim ond Gorffennaf llynedd dywedodd Peter Hain wrtha i “Dw i ddim yn credu bod [refferendwm] yn mynd i ddigwydd o fewn 18-20 mis. Allwch chi ddim ennill refferendwm bryd hynny.” Felly ydyn ni wir fod credu, 11 mis yn hwyrach, y byddai wedi newid ei feddwl?
*chi’n ei gofio fe -fe ddywedodd yn Barn ei fod e’n casau’r Cymry Cymraeg