Ni ddylai cynlluniau i gau ysgolion gael eu cyfeirio’n awtomatig at gweinidogion i’w hystyried, yn ôl Llywodraeth y Cynulliad.

Dywedodd y gweinidog addysg Leighton Andrews y dylai gweinidogion orfod gwneud penderfyniadau i gau ysgolion ar “achlysuron prin” yn unig.

Ar hyn o bryd mae unrhyw gynigion gan awdurdodau lleol sy’n wynebu gwrthwynebiad yn cael eu hanfod at weinidogion yn Llywodraeth y Cynulliad i wneud penderfyniad.

Roedd Leighton Andrews wedi dweud yn y gorffennol ei fod o eisiau cyflymu’r broses wrth i gynghorau ledeld Cymru fynd i’r afael gyda phroblem llefydd gwag mewn ysgolion.

Mae ei gynnigion yn dilyn ffrae ynglŷn ag addysg cynnyddu’r ddarpariaeth ar gyfer addysg Cymraeg yng ngorllewin Caerdydd. Gwrthododd y Prif Weinidog Carwyn Jones y cynlluniau gan ddenu beirniadaeth gan ACau Plaid Cymru.

Mewn datganiad yn y Senedd dywedodd Leighton Andrews bod gormod o benderfyniadau yn glanio ar ddesgiau gweinidogion.

“Yng Nghymru mae’n bosib i un gwrthwynebydd, sydd o bosib heb unrhyw gysylltiad gyda’r ysgol, achosi i’r cynigion gael eu hanfon i weinidogion,” meddai.

“Dyw hyn ddim yn ddefnydd da o adnoddau pan mae’n amlwg fod pawb sydd â diddordeb gwirioneddol yn y cynnig o blaid.”

Dywedodd Leighton Andrews y byddai’n gwneud y newid yfory pe bae’n bosib ond y byddai’n rhaid newid y gyfraith.

Byddai gan bobol leol “ddweud mawr” o hyd ond byddai “mwy o’r trafod yn digwydd ar lefel leol,” meddai Leighton Andrews.