Cafodd yr 14 o bobol fu farw ar Bloody Sunday eu lladd o ganlyniad i “saethu nad oedd modd ei gyfiawnhau”, yn ôl yr ymchwiliad hir ddisgwyliedig i’r digwyddiad.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron yn Nhŷ’r Cyffredin nad oedd yr un o’r bobol a gafodd eu lladd yn fygythiad i filwyr Prydain ac fe ymddiheurodd am y lladd.

Roedd yr ymchwiliad dan gadeiryddiaeth yr Arlgwydd Saville wedi dod i’r casgliad bod y bwledi cyntaf wedi eu tanio gan filwyr Prydeinig, meddai, nad oedden nhw wedi rhoi rhybudd, a bod rhai o’r milwyr wedi colli rheolaeth.

Fe fu 14 o bobol farw ar ôl i’r milwyr Prydeinig ddechrau saethu mewn gorymdaith hawliau sifil yn Derry ar 30 Ionawr 1972 – 13 ar y pryd ac un yn ddiweddarach.

‘Dim modd cyfiawnhau’ meddai Cameron

“Does dim modd cyfiawnhau’r hyn a ddigwyddodd ar Bloody Sunday. Roedd yn anghywir,” meddai David Cameron.

“ Y Llywodraeth sy’n gyfrifol yn y pen draw am ymddygiad y fyddin. Ac felly, ar ran y Llywodraeth, a gweddill y wlad, mae’n ddrwg iawn gen i.”

Er hynny, dyw’r adroddiad ddim wedi dweud yn blwmp ac yn blaen bod y lladd yn “anghyfreithlon”.

Casgliadau’r adroddiad

Yn ôl yr ymchwiliad roedd milwyr oedd wedi mynd i ardal y Bogside, lle’r oedd yr orymdaith yn digwydd, wedi gwneud hynny “o ganlyniad i orchymyn na ddylai fod wedi ei roi”.

Doedd yr un o’r bobol a gafodd eu lladd yn cario arf ac, er bod milwyr gweriniaethol wedi saethu, “doedd hynny ddim yn cyfiawnhau saethu dinasyddion”.

Roedd y milwyr wedi “ymateb drwy golli rheolaeth.. gan anghofio neu anwybyddu eu cyfarwyddiadau a’u hyfforddiant”.

Wedyn roedd nifer o’r milwyr wedi “rhoi cam argraff ar bwrpas er mwyn cyfiawnhau’r saethu”.

Roedd rhai o’r rheiny a gafodd eu saethu naill ai’n dianc neu’r mynd i helpu’r rhai a gafodd eu lladd.

Llun: Tyrfa yn Derry yn croesawu’r adroddiad (Gwifren PA)