Newyddion mawr i ymgyrchwyr addysg heddiw -mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, eisiau cymeryd camau i sicrhau bod penderfyniadau am ad-drefnu addysg yn cael eu cadw’n lleol. Mae wedi dweud fwy nag unwaith bod y broses ad-drefnu’n cymeryd llawer gormod o amser ac heddiw dywedodd nad oedd yn credu bod y system bresennol wedi bwriadu i gymaint o gynlluniau ad-drefnu gael eu cyfeirio at y Gweinidog Addysg. Mae’u gynlluniau’n bwriadu dod a’r arfer hwnnw i ben, fel mai’r eithriad ac nid y norm fydd hynny yn y dyfodol.
Yn ol Jenny Randerson yn y siambr heddiw, mae o leiaf 42 mater yn disgwyl penderfyniad gan y Gweinidog. Ers Ionawr, mae’r Gweinidog wedi gwneud 11 penderfyniad, sydd ddim yn awgrymu bod y broses yn gyflym iawn. Y broblem wrth gwrs yw, ar waethaf ewyllys y Gweinidog yn y maes hwn, mae llawer o’r newidiadau arfaethedig yn golygu bod rhaid deddfu a newid rheoliadau ac i wneud hynny rhaid ymgynghori. Bydd hyn yn rhy hwyr i awdurdodau lleol sydd eisiau newid pethau ac athrawon a disgyblion ysgolion a’u dyfodol dan fygythiad.
Rhy hwyr hefyd i’r ysgolion sydd eisoes wedi cael ymateb i ymgynghoriadau. Mae rhieni ysgol Treganna yng Nghaerdydd sydd newydd glywed bod y cais i gau ysgol arall i wneud lle ar eu safle i ddisgyblion Treganna wedi ei wrthod yn pwyso am arolwg barnwrol o benderfyniad y Prif Weinidog. Manylion yma.